Don't miss our weekly PhD newsletter | Sign up now Don't miss our weekly PhD newsletter | Sign up now

  Dylunio ensymau-metel artiffisial i gatalyddu adweithyddion amrywiaethau cam hwyr


   Cardiff School of Chemistry

This project is no longer listed on FindAPhD.com and may not be available.

Click here to search FindAPhD.com for PhD studentship opportunities
  Dr Guto Rhys  No more applications being accepted  Competition Funded PhD Project (UK Students Only)

About the Project

Yn labordy Dr Rhys rydym yn dylunio a pheiriannu peptidau a phroteinau ar gyfer cymwysiadau newydd (www.rhyslab.com). Ar gyfer y prosiect PhD hwn, rydym yn awyddus i recriwtio myfyriwr sy'n siarad Cymraeg sydd â diddordeb mewn datblygu ensymau newydd i gataleiddio adweithiau sy'n anodd eu cyflawni gan ddefnyddio cemeg synthetig. Yn fwy penodol, rydym am addasu moleciwlau bach yn gemegol gyda manylder uchel (regioselectively), a fydd yn galluogi arallgyfeirio cam hwyr i greu ymgeiswyr cyffuriau. Byddwn yn cyflawni hyn trwy optimeiddio meteloensymau naturiol a rhai wedi eu dylunio a all gataleiddio adweithiau actifadu CH. Mae'n amser cyffrous i fod yn ymchwilio dylunio ensymau oherwydd mi fyddi di'n ymuno â chymuned fyd-eang o wyddonwyr sy'n ehagnu yn gyflym. Yn ystod dy PhD bydd cyfleoedd i ti gyflwyno dy waith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r prosiect hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â chefndir mewn biocemeg/cemeg neu bynciau tebyg, sydd yn edrych i ehangu a datblygu eu sgiliau ymhellach. Mae'n brosiect rhyngddisgyblaethol iawn lle ceir cyfle i ddatblygu sgiliau mewn cemeg synthetig, bioleg gemegol, bioleg foleciwlaidd, bioleg strwythurol, dylunio protinau a modelu cyfrifiadurol. Mae'r rhain yn sgiliau ymchwil dymunol iawn a fydd, ar ôl cwblhau dy PhD, yn dy wneud yn addas ar gyfer ystod eang o gyfleoedd yn y byd academaidd neu ddiwydiant. Byddi’n derbyn cydoruchwyliaeth gan yr Athro Simon Ward, sy'n gyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ac sy'n arbenigwr blaenllaw mewn datblygu therapïau moleciwl bach newydd. Mae labordy Dr Rhys yn amgylchedd cefnogol sy'n gofalu am ddatblygiad ei myfyrwyr a'i staff. Rydym yn eich annog i wneud cais beth bynnag fo'ch oedran, anabledd, ethnigrwydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn agored i unrhyw un sydd am gyfrannu at wneud y labordy yn amgylchedd amrywiol, cynhwysol a chyfeillgar.

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal a’i gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n hyderus wrth siarad ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso i'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais anfon e-bost ataf (Dr Rhys) i ddysgu mwy am y prosiect.

Caiff yr ysgoloriaeth hon ei hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Coleg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr.

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.

Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil yn noddi myfyrwyr i astudio tuag at ddoethuriaeth. Nod y cynllun yw hyrwyddo a datblygu ysgolheictod, ymchwil a chyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg a meithrin ymchwilwyr o’r radd flaenaf.

Am fanylion pellach am waith y Coleg, ewch i’w gwefan: https://colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/astudio-ol-raddedig/ysgoloriaethau-ymchwil/

To read this advert in English: Designed artificial metalloenzymes for late-stage diversification at Cardiff University on FindAPhD.com

Meini prawf Academaidd

Dylai ymgeiswyr feddu ar neu ddisgwyl ennill gradd dosbarth cyntaf neu 2.1 da a / neu gymhwyster lefel Baglor neu Feistr priodol (neu gymhwyster cyfatebol ganddynt).

Mae disgwyl i ymgeiswyr fod â hyfedredd uchel yn y Gymraeg.

Saesneg

Bydd gofyn i ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos hyfedredd yn yr iaith Saesneg (IELTS 6.5 neu gyfatebol).English language requirements for postgraduate students - Astudio - Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

Goruchwylwyr

Dr Guto Rhys Dr Guto Rhys - Pobl - Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

Yr Athro Simon Ward Yr Athro Simon Ward - Pobl - Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

Dyddiad dechrau 1 Hydref 2024.

Bydd pob cais yn cael ei adolygu ar ôl y dyddiad cau hwn. Ni fyddwch yn clywed gennym tan ddiwedd mis Ionawr 2024

Mae hon yn swydd a ariennir yn gystadleuol rhwng dau brosiect. Bydd yr ymgeisydd gorau o'r ddau brosiect yn cael ei ariannu.

Cwblhewch gais ar-lein, gan nodi enw(au) eich goruchwyliwr Cemeg - Astudio - Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

Biological Sciences (4) Chemistry (6)

Funding Notes

Mae hon yn efrydiaeth 3 blynedd yn cynnwys ffioedd dysgu Cartref a chyflog ar gyfradd UKRI.
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil hon yn agored i Ymgeiswyr Cartref, UE neu Dramor. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr tramor a'r UE nodi y bydd gofyn iddynt dalu'r gwahaniaeth rhwng ffioedd Cartref a Thramor/UE bob blwyddyn.

How good is research at Cardiff University in Chemistry?


Research output data provided by the Research Excellence Framework (REF)

Click here to see the results for all UK universities

Where will I study?

Search Suggestions
Search suggestions

Based on your current searches we recommend the following search filters.

Search Suggestions
PhD suggestions

Based on your current search criteria we thought you might be interested in these.